Coleg y Cymoedd: Our Mission is your future success
Serving the communities of two local authorities in South Wales central valley, Coleg y Cymoedd employs 750 employees and has around 9,500 learners studying primarily at its campuses in Aberdare, Rhondda, Nantgarw and Ystrad Mynach. The college offers a comprehensive and inclusive FE curriculum from entry level up to level 4 and also offers a range of HE programmes from HNC up to full degrees in partnership with local universities.
The College’s campuses boast facilities for a wide range of industry and subject-specific courses. These include a dedicated construction building, engineering workshops, and dedicated gallery spaces for creative arts at the Centre for Art and Design Technology.
The campuses also offer excellent employer links, state of the art learning centres, sport and fitness facilities, hair and beauty salons, high quality conference and training facilities, and restaurants.
Coleg y Cymoedd recognises how the benefits of a diverse population of learners and staff enriches the life of the college and in turn enhances the educational opportunities it offers.
Interested in joining Coleg y Cymoedd? Visit www.cymoedd.ac.uk to find out more
Coleg y Cymoedd: Eich llwyddiant yn y dyfodol yw’n cenhadaeth
Mae Coleg y Cymoedd, sy’n gwasanaethu cymunedau dau awdurdod lleol yng nghymoedd canolog De Cymru, yn cyflogi 750 o weithwyr ac mae ganddo oddeutu 9,500 o ddysgwyr yn astudio yn bennaf ar ei gampysau yn Aberdâr, y Rhondda, Nantgarw ac Ystrad Mynach. Mae’r coleg yn cynnig cwricwlwm AB cynhwysfawr a chynhwysol o lefel mynediad hyd at lefel 4 ac yn cynnig ystod o raglenni AU, o HNC hyd at raddau llawn mewn partneriaeth â phrifysgolion lleol.
Mae gan gampws y Coleg gyfleusterau ar gyfer ystod eang o gyrsiau diwydiant a phynciau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys adeilad adeiladwaith pwrpasol, gweithdai peirianneg, a mannau oriel ymroddedig ar gyfer y celfyddydau creadigol yn y Ganolfan Celf a Thechnoleg Dylunio.
Mae’r campysau hefyd yn cynnig cysylltiadau rhagorol â chyflogwyr, canolfannau dysgu o’r radd flaenaf, cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd, salonau gwallt a harddwch, cyfleusterau cynadledda a hyfforddi a bwytai o ansawdd uchel.
Mae Coleg y Cymoedd yn cydnabod sut mae manteision poblogaeth amrywiol o ddysgwyr a staff yn cyfoethogi bywyd y coleg ac yn ei dro yn gwella’r cyfleoedd addysgol a gynigir.
Oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Choleg y Cymoedd? Ewch i www.cymoedd.ac.uk i ddysgu mwy.